Ras Sgwar: rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd 

1 March 2023 tbs.pm/78035

HTV Cymru

 

Clawr cylchgrawn TVTimes

O TVTimes ar gyfer 4 Hydref 1980

Nos Sadwrm (Hydref 4ydd am 5.15) bydd y rhaglen gyntaf yn y gyfres newydd Ras Sgwar ar HTV Cymru. Yr holwr yw John Pierce Jones, a’r cyflwynydd yw Sioned Mair. Recordir y gyfres yn Stiwdio Clwyd, Yr Wyddgrug, yn ystod y ddau fis nesaf.

“Mae’r pum rhaglen gyntaf wedi’u trefnu crbyn hyn,” meddai’r cynhyrchydd, Eifion Lloyd Jones, “and, yn naturíol, byddwn yn edrych ymlacn i glywed oddi wrth unrhyw bar sydd awydd cymryd rhan.

“Byddwn yn recordio pob rhaglen o flaen cynulleidfa — daw cynulleid-fa’r rhaglcn gyntaf o Ddyffryn Clywd; o Ynys Mon y daw cynull-eidfaoedd rhaglenni dwy a tair, ac ar gyfer rhaglenni pedair a phump ‘r ydym wedi gwahodd cynulleidfa o ardai Penllyn ac Edeyrnion.

“Ar gyfer y dyfodol, hoffem glywed oddi wrth gymdeithasau etc fyddai a diddordeb mewn trefnu cynulleidfa i ddod i Stiwdio Clwyd ar gyfer Ras Sgwar. Danfoner air ataf i’r Stiwdio Clwyd.”

Y rhai fydd yn cystadlu yn y rhaglen gyntaf yw Gareth Davies, y chwaraewr rygbi rhyngwladol, a’i briod. Byddant yn herio Dai Davies, gol-geidwad tim peidroed Wrecsam, a’i bríod.

Yn y rhaglenni sydd yn dilyn bydd Ray Gravell a Dafydd Hywel yn herio Austin Savage ac Orig Williams; Tecwyn Ifan a Cleif Harpwood yn erbyn y ddwy chwaer Eirian a Dwynant Jones, a J. O. Roberts a’i fab Gareth, yn erbyn Glyn Williams a’i fab Dewi.

 


 


 

Ras Sgwar: first programme in a new series

 

Saturday night (October 4th at 5.15) sees the first programme in the new series Ras Sgwar on HTV Cymru. The questioner is John Pierce Jones, and the presenter is Sioned Mair. The series will be recorded at Clwyd Studios, Mold, during the next two months.

“The first five programmes have been arranged by now,” said the producer, Eifion Lloyd Jones, “and, naturally, we will be looking forward to hearing from anyone that wishes to participate.

“We will record each programme in front of an audience – the audience for the first programme will come from Dyffryn, Clywd; the audience for programmes two and three will come from Anglesey, and for programmes four and five we have invited an audience from Penllyn and Edeyrnion.

“For the future, we would like to hear from associations etc that would be interested in organizing an audience to come to Clwyd Studio for Ras Sgwar. Send me word to the Clwyd Studio.”

Those who will compete in the first programme are Gareth Davies, the international rugby player, and his wife. They will challenge Dai Davies, the goalkeeper of the Wrexham football team, and his wife.

In the programmes that follow, Ray Gravell and Dafydd Hywel will challenge Austin Savage and Orig Williams; Tecwyn Ifan and Cleif Harpwood against the two sisters Eirian and Dwynant Jones, and J. O. Roberts and his son Gareth, against Glyn Williams and his son Dewi.

 

Your comment

Enter it below

A member of the Transdiffusion Broadcasting System
Liverpool, Friday 22 September 2023